Egwyddorion yr Ymddiriedolaeth
- Nid yw'r Ymddiriedolaeth wedi ei alinio ag unrhyw unigolyn na mudiad, holl bwrpas ei waith fydd cydnabod a chefnogi pobl ifanc o'r DU ar drothwy eu gyrfa ac sydd eisoes wedi cychwyn gyrfa broffesiynol.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn chwilio am artistiaid ifanc, unigol sydd nid yn unig â dawn arbennig ond sydd â ffocws amlwg, egni a menter.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn cynnig cronfa at ddefnydd penodol, cytunedig fel y trafodwyd gyda phob derbynnydd. Gall unigolion eithriadol o ddawnus dderbyn cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth ar fwy nag un achlysur; llwyddir i wneud hynny yn unol â chanlyniadau ac ymrwymiad yr ymgeisydd.
- Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ymdrechu i ariannu rhaglenni addysgol a gwaith sydd wedi ei ddechrau eisoes.
Y Broses Ariannu
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi penderfynu cadw'r costau gweithredu mor isel â phosib er sicrhau fod y mwyafrif helaeth o'r cronfeydd a godir yn mynd i'r union bobl ddawnus y mae'r Ymddiriedolaeth yn dymuno eu cefnogi.
- Gwneir y penderfyniadau ariannu yn flynyddol yn chwarter olaf y flwyddyn.
- Penderfynir yr ariannu gan banel o 3 Beirniad fydd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mr Terfel fydd cadeirydd y panel sy'n golygu nad yw'n bosib pennu dyddiad penodol gan y bydd raid gwneud trefniadau i gyd-fynd â rhaglen waith brysur Mr Terfel.
- Gall yr Ymddiriedolaeth ariannu mwy nag un ymgeisydd bob blwyddyn.
- Gwahoddir ceisiadau gan Gantorion, Offerynwyr, Arweinyddion, Cyfansoddwyr. Yr Artistiaid i anfon CV, Llythyrau cefnogol, Demo CD, DV neu Bortffolio gwaith i:- Marilyn Henry, Ymddiriedolaeth Bryn Terfel, 53, Brynteg, Rhiwbeina, CAERDYDD CF14 TU. e-bost: marilyn@brynterfelfoundation.org



