Bryn Terfel
Bryn Terfel Bryn Terfel

Ymddiriedolaeth Bryn Terfel

Daeth y syniad o sefydlu ymddiriedolaeth i mi wedi clywed hanesion am rai cantorion dawnus iawn yn gadael eu colegau gyda dyledion myfyrwyr trwm fyddai'n cymryd blynyddoedd i'w rheoli a'u dileu. Mae'n anodd dirnad sut mae'n bosib canolbwyntio'n llawn ar ddechrau gyrfa newydd fel unawdwyr, mewn tai opera a neuaddau cyngerdd, gyda phryderon ariannol fel cwmwl uwch eu pennau. Teimlwn mai braf iawn fyddai iddynt dderbyn gwobr ariannol am eu holl waith caled ac ymroddgar ar ddechrau gyrfa lle gellir gwneud defnydd effeithiol ac ymarferol ohono. Rwy'n cofio pa mor frwdfrydig a chynhyrfus oeddwn i pan dderbyniais wobr ariannol gan Capitol Radio. Bu'r wobr honno'n help mawr i mi dalu am ddarnau cerddoriaeth, cael côt gynffon fain, talu costau blwyddyn olaf y Cwrs Opera a dileu rhywfaint o ddyledion llety myfyriwr.

Bryn Terfel

DONATION FORM

Please make a cheque to the value of payable to The Bryn Terfel Foundation and send it along with this form to:

Marilyn Henry, Administrator
53 Brynteg
Rhiwbina
Cardiff
CF14 6TU